Datganiad dwyieithog yw hwn. Mae’r fersiwn Saesneg yma.
This is a bilingual media release. The English version can be read here.
MEDIA RELEASE
Embargo tan 00.01, 5 Rhagfyr 2016
Llyfrgell Genedlaethol Cymru - datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Mae Nick Ramsay AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, wedi rhyddhau'r datganiad a ganlyn mewn ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru - 'Llyfrgell Genedlaethol Cymru - Adolygiad o Lywodraethiant'.
Dywedodd Mr Ramsay:
"Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn adnodd hanfodol i bobl Cymru.
"Mae ei chasgliad helaeth yn bwysig yn genedlaethol a rhyngwladol wrth roi mynediad at bob math o wybodaeth gofnodedig, yn enwedig mewn perthynas â Chymru a phobloedd Celtaidd eraill, i'r cyhoedd, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud ag ymchwil a dysg.
"Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn tynnu sylw at welliannau i agweddau pwysig ar lywodraethiant a rheolaeth y Llyfrgell yn dilyn cyfnod anodd.
"Mae'r Llyfrgell yn dal i wynebu rhai heriau sylweddol i sefydlu ei gynaliadwyedd wrth ymateb i ostyngiadau yng nghyllid Llywodraeth Cymru.
"Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at yr angen i Lywodraeth Cymru, fel Noddwr y Llyfrgell, chwarae ei rhan yn y broses honno.
"Yn benodol, rwy'n croesawu cyfeiriadau'r Archwilydd Cyffredinol at waith Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad diwethaf, a'r argymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru egluro ei safbwynt mewn ymateb i waith y pwyllgor."
"Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn trafod adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol maes o law."
Nodiadau i olygyddion
I gael rhagor o wybodaeth, neu os am wneud cais am gyfweliadau, lluniau neu gyfleoedd ffilmio, cysylltwch â gwasanaeth cyswllt â'r cyfryngau y Cynulliad Cenedlaethol ar 0300 200 7487, neu anfonwch neges e-bost at newyddion@cynulliad.cymru.
Mae'r adroddiad llawn ar gael gan Swyddfa Archwilio Cymru
Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
Saesneg
Welsh